Section 83(1) of the Local Government Act 1972 (“the 1972 Act”) prohibits a person elected to the office of chairman, vice-chairman, councillor or elected mayor of a county or county borough council in Wales from acting in such office unless that person has made a declaration of acceptance of office in the form prescribed by order and that declaration has been delivered to the proper officer of the council within two months from the day of the election. If such a declaration is not made and delivered to the proper officer within the appointed time, the office of that person becomes vacant.
Mae Adran 83(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) yn gwahardd person sydd wedi'i ethol i swydd cadeirydd, is-gadeirydd, cynghorydd neu faer etholedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag gweithredu mewn swydd o'r fath oni bai fod y person hwnnw wedi gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd yn y ffurf a ragnodir gan orchymyn a bod y datganiad hwnnw yn cael ei draddodi i'r swyddog priodol yn y cyngor o fewn dau fis o ddyddiad yr etholiad. Os na chaiff datganiad o'r fath ei wneud a'i draddodi i'r swyddog priodol o fewn yr amser a bennwyd, bydd swydd y person hwnnw yn dod yn wag.