(This note does not form part of the Regulations)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diddymu'r rhan honno o Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 (OS 2001/2732, Cy.231), a oedd yn honni gwneud diwygiadau i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964), ond a oedd yn cynnwys gwallau drafftio. Yr oedd y diwygiadau a wnaed i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965, fel y'u diwygiwyd eisoes) gan Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 wedi'u gwneud yn ddilys ac nid ydynt yn cael eu diddymu gan y Rheoliadau hyn.